Pwy yw'r Ffrindiau Peryg Bywyd?

Oes gennych chi ffrind sy'n gyrru’n rhy gyflym? Ydyn nhw'n mwynhau'r wefr o yrru'n gyflym, gwneud symudiadau peryglus ar y ffyrdd, gyrru’n rhy agos y tu ôl i geir eraill ac yn or-hyderus yn gyffredinol wrth yr olwyn?

Os yw un o'r uchod yn wir, maen nhw'n Beryg Bywyd.

Efallai bod ffrindiau peryg bywyd yn yrwyr da, ond nid dyna'r pwynt. Maen nhw'n colli'u pennau ac yn gyrru’n rhy gyflym yn fwriadol!

Os ydych yn teithio yn y car gyda nhw, maen nhw'n peryglu eich bywyd chi, bywydau pobl eraill a nhw'u hunain.

Pam maen nhw'n beryglus?

Dynon ifanc gyda teithwyr yn y car yw'r bobl fwyaf peryglus tu ol i'r olwyn - am eu bod yn gyrru’n gynt oherwydd wefr o yrru’n gyflym ac I ddangos eu hunain.

Mae’n fwy tebygol I yrwyr newydd heb fawr ddim o brofiad I golli rheolaeth tu ol I’r olwyn wrth yrru’n gyflym.

Mae gyrru mewn ffordd gyflym a pheryglus neu yrru'n rhy agos y tu ôl i geir eraill yn hynod beryglus gan na fyddan nhw'n gallu arafu mewn pryd e.e. os yw plentyn yn rhedeg i ganol y ffordd.

Yn aml, mae ffrindiau peryg bywyd yn cario eu ffrindiau yn ei ceir, ac wrth iddynt sgwrsio, chwerthin a gwrando i gerddoriaeth, nid ydynt yn gallu canolbwyntio’n llawn ar yr hyn maen nhw'n ei wneud. Yn aml nid ydynt yn sylweddoli pa mor gyflym maen nhw’n gyrru.

Mae eu ffrindiau'n rhoi pwysau arnyn nhw i gymryd siawns ar y ffyrdd am hwyl neu maen nhw'n rasio yn erbyn eu ffrindiau mewn ceir eraill, sy'n hurt ac yn beryglus dros ben!

Nid yw cymryd cyffuriau neu yfed a gyrru’n ddoeth ond mae ffrindiau Peryg Bywyd yn meddwl eu bod yn gallu ymdopi â hynny. Maen nhw'n meddwl eu bod nhw y tu hwnt i'r gyfraith ac na fyddan nhw'n cael eu dal. Ond, dyma pryd mae damweiniau'n digwydd ac maen nhw'n gallu digwydd!

Pam maen nhw'n lladd?

Mae gyrwyr ifanc yn cael mwy o ddamweiniau ar y ffyrdd na neb arall. Maen nhw'n gysylltiedig ag un o bob pum damwain pan fo rhywun yn cael ei ladd neu ei anafu'n ddifrifol!

Mae ffrindiau Peryg Bywyd yn cael damweiniau am eu bod yn gyrru’n beryglus ac oherwydd eu hagwedd. Maen nhw'n rhy brysur yn meddwl am eu delwedd cŵl heb feddwl digon am eu sgiliau gyrru a u bywydau!

Y Ffeithiau
Gyrru'n Ofalus
Gryrru'n Ofalus
Dyma rai awgrymiadau am ddiogelwch ar y ffyrdd a ddylai fod o gymorth
Gyrru'n Ofalus